Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant - Plant yng Nghymru

Dydd Mawrth 30 Mehefin 2015

Tŷ Hywel

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Julie Morgan AC, sy'n cadeirio'r Grŵp Trawsbleidiol ar Blant, bawb i'r cyfarfod, a chyflwynodd y siaradwyr.

Cyflwyniad

Rhoddodd Dr Sarah Jones o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Karen McFarlane, sef swyddog diogelwch plant Plant yng Nghymru tan fis Mehefin 2015, gyflwyniad ar faterion a phryderon sy'n gysylltiedig ag anafiadau anfwriadol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Y sefyllfa bresennol

Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae anafiadau anfwriadol yn fater iechyd cyhoeddus pwysig.  Anafiadau anfwriadol yw'r prif beth sy'n achosi anafiadau angheuol a difrifol ac anafiadau sy'n achosi anableddau ymysg plant a nhw yw'r prif beth sy'n achosi annhegwch iechyd. 

Mewn adroddiad DU-gyfan yn 2013, nodwyd bod gan Gymru'r gyfradd uchaf o farwolaethau o ganlyniad i anafiadau ymhlith plant ar draws y pedair gwlad1 .  Mae Cymru hefyd yn cymharu'n wael o fewn Ewrop, ac mewn asesiad Ewropeaidd o 31 o wledydd a gynhaliwyd yn 2012, daeth Cymru yn 24ain  o ran ymdrechion i atal anafiadau anfwriadol, tra ddaeth Lloegr yn wythfed a'r Alban yn 11eg . 2

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae anafiadau anfwriadol yn ei chael ar fywydau plant ac yn Ein Dyfodol Iach (2009) nododd bod lleihau damweiniau ac anafiadau yn un o'i deg blaenoriaeth i'w gweithredu.  Yn 2013, ymrwymodd Llywodraeth Cymru unwaith eto i atal anafiadau anfwriadol ac yn ei chynllun blynyddoedd cynnar a gofal plant, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair, (2013) nododd ei bod yn:

 

Trwyddedau gyrru graddedig

 

Canolbwyntiodd Dr Sarah Jones ar fanteision Trwydded Gyrru Graddedig, system sy'n caniatáu i yrwyr newydd ddatblygu eu sgiliau a phrofiad gyrru yn raddol, mewn cyfnodau sydd wedi'u diffinio'n dda ac mewn ffordd strwythuredig. Mae gyrwyr ifanc a dibrofiad mewn perygl uchel o ddamweiniau difrifol ac angheuol, am amryw o resymau, gan gynnwys gorhyder ymhlith gyrwyr ifanc, diffyg profiad, a thuedd i gymryd risgiau. Mae Trwyddedau Gyrru Graddedig yn mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu isafswm hyd y cyfnod y dylai gyrwyr ifanc yrru o dan oruchwyliaeth a chyfyngu ar y sefyllfaoedd risg uchaf, megis gyrru gyda'r nos, ar gyfer gyrwyr sydd newydd gymhwyso.

Ym Mhrydain, amcangyfrifir y gallai Trwyddedau Gyrru Graddedig atal dros 400 o farwolaethau ac anafiadau difrifol bob blwyddyn, ac achub £200 miliwn i'r economi bob blwyddyn drwy atal damweiniau. (Trwyddedau gyrru graddedig: dadansoddiad rhanbarthol o arbedion anafusion posibl ym Mhrydain Fawr, Sefydliad y RAC, 2014) [1]. Mae ymchwil yn awgrymu y byddai'r cyhoedd yn derbyn system o'r fath, yn enwedig os byddai'n cael ei gyflwyno ochr yn ochr â gwaith cyfathrebu da yn esbonio manteision amddiffyn gyrwyr ifanc rhag y sefyllfaoedd lle maent yn wynebu'r perygl mwyaf. Canfu arolwg gan Sefydliad yr RAC bod dwy ran o dair (68%) o oedolion yn y DU, ac 41% o yrwyr ifanc, yn cefnogi cyflwyno trwyddedau gyrru graddedig[2].

Plant dan 5 oed sy'n wynebu'r perygl mwyaf

Amlinellodd Karen McFarlane y materion sy'n wynebu plant o dan 5. Tra bod pob plentyn mewn perygl o anafiadau anfwriadol, plant yn y grŵp oedran blynyddoedd cynnar sy'n fwyaf tebygol o fynychu adrannau achosion brys o ganlyniad i anafiadau anfwriadol.

Yng Nghymru, mae tua 65,500 o blant (0-4 oed) yn mynychu adrannau achosion brys bob blwyddyn.  Mae 43% o'r achosion hyn yn anafiadau 3.

Pob ymweliad ag adran argyfwng ymhlith plant rhwng 0 a 4 oed (pob achos)                      65,500

Ymweliadau sy'n gysylltiedig ag anafiadau ymhlith plant rhwng 0 a 4 oed                            33,300

Ymweliadau sy'n gysylltiedig ag anafiadau anfwriadol ymhlith plant rhwng 0 a 4 oed     28,700 

Mae anafiadau anfwriadol yn cynrychioli 86% o'r holl ymweliadau o ganlyniad i anafiadau.  Oherwydd data/codio o ansawdd gwael, credir bod y ffigwr hwn yn uwch na'r hyn a adroddwyd.

 Yn y grŵp oedran hwn, mae anafiadau anfwriadol yn cynrychioli 24% o'r holl ymweliadau ag adrannau brys sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, ni waeth beth yw achos.  O'r rhai sy'n ymweld ag adrannau brys o ganlyniad i anaf, mae tua 10% yn cael eu derbyn i'r ysbyty.

O ran plant dan 5 oed, mae'r rhan fwyaf o anafiadau anfwriadol yn digwydd yn y cartref ac maent yn anafiadau rhagweladwy ac ataliadwy. 

Amddifadedd ac annhegwch

Mae llawer o dystiolaeth am y gydberthynas rhwng amddifadedd ac anafiadau anfwriadol.  Yng Nghymru, mae 27% o anafiadau wedi digwydd i blant sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, o'i gymharu â'r ffaith bod dros 52% o'r anafiadau wedi digwydd i blant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.  Ar gyfer mathau penodol o anafiadau, mae'r annhegwch hwn yn cynyddu'n ddramatig.  Er enghraifft, mae plant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig 37 gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i dân yn y cartref na phlant o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.4

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dangos bod anafiadau yn arwain at yr anghydraddoldebau mwyaf.  Mae'r ffactorau risg yn cynnwys mwy o brofiad o orlenwi, amgylcheddau peryglus, diffyg offer diogelwch, unig rieni, diweithdra, oedran ifanc y fam a lefel addysg isel ymhlith mamau. 5

Effaith a chost anafiadau anfwriadol

Mae effeithiau anafiadau anfwriadol yn arwyddocaol ac yn gosod beichiau cymdeithasol ac economaidd enfawr ar blant, eu teuluoedd, y boblogaeth ehangach a gwasanaethau yng Nghymru.  Gall anafiadau arwain at amrywiaeth o ganlyniadau niweidiol, gan gynnwys llai o alluoedd corfforol, llai o gyrhaeddiad addysgol, anawsterau emosiynol, gwybyddol ac ymddygiadol, a phlant sy’n fwy tebygol o gael eu bwlio neu eu heithrio'n gymdeithasol. 6, 7

Mae effaith ariannol anafiadau yn cynyddu'n sylweddol ymhlith y rhai sy'n byw mewn tlodi ac anfantais.  Mae'r baich ariannol o deithio i'r ysbyty, apwyntiadau cleifion allanol, costau gofal plant ychwanegol ar gyfer brodyr a chwiorydd ac absenoldeb di-dâl o gyflogaeth yn gallu bod yn sylweddol i deuluoedd sydd yn byw ar gyllideb sydd eisoes yn gyfyngedig.

Mae anafiadau anfwriadol yn faich ariannol ar Lywodraeth Cymru yn sylweddol.  Ar gyfer plant 0-4 oed yn unig, mae'r gost ariannol ar gyfer ymweliadau ag adrannau brys yn £3.2 miliwn bob blwyddyn ac mae cost bellach o £3.3 miliwn ar gyfer y rhai a dderbynnir i'r ysbyty, sy’n cyfanswm o £6.5 miliwn y flwyddyn. 3, 8 Dylid nodi bod y rhain yn gostau meddygol uniongyrchol yn unig ac nid ydynt yn cyfrif anafiadau difrifol neu driniaethau ychwanegol ac arbenigol.  Er enghraifft, amcangyfrifir bod y driniaeth feddygol gychwynnol ar gyfer un achos o sgaldio mewn bath yn costio dros £172,000 (British Burns Association) ac amcangyfrifir mai £4.9 miliwn yw costau gydol oes ar gyfer un anaf difrifol i'r pen. 9 

Ymyriadau effeithiol

Yn 2010, gosododd NICE ganllawiau yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer atal anafiadau anfwriadol yn y cartref ymhlith plant (PH 29 a PH30). 10. Dyma drosolwg o'r argymhellion hyn:

 

Yn dilyn y cyflwyniad, cafwyd trafodaeth am y materion a godwyd yn y cyflwyniad a nodwyd pryderon yn ymwneud â'r materion a ganlyn.

·         Pryderon am nifer y plant a phobl ifanc sy'n profi anafiadau anfwriadol a sut y gall y niferoedd hyn gael eu lleihau;

·         Pryder nad oes cyllid ar gael yng Nghymru i gydlynu'r gwaith, fel y mae yng ngweddill y DU; a

·         Gan yr ystyrir bod atal anafiadau anfwriadol yn ddarpariaeth statudol, nid oes modd i geisio cyllid gan sefydliadau elusennol i ariannu'r gwaith yng Nghymru.

Daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm

 

1.       Hardelid P, Davey J, Dattan N, Gilbert R, et al. (2013) Child Deaths Due to Injury in the Four UK Countries: A Time Trends Study from 1980 to 2010.PLoS One 8(7).

2.       MacKay M and Vincenten J. Child Safety Report Card 2012 – Wales.  Birmingham: Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop, Eurosafe 2012.

3.       EDDS. Set Ddata Adran Achosion Brys; CAPIC, Prifysgol Abertawe

4.       Better Safe Than Sorry, Preventing unintentional injury to children (2007). Adroddiad Cenedlaethol Iechyd.  Y Comisiwn Archwilio

5.       World report on child injury prevention. Sefydliad Iechyd y Byd. Genefa 2008.

6.       http://www.ditchthelabel.org/uk-bullying-statistics-2014/ Arolwg blynyddol o fwlio 2014

7.       Gabbe BJ, Brooks C, Demmler J, Macey S, Hyatt MA, Lyons RA, The association between head injury and academic performance - tystiolaeth o astudiaeth e-garfan o'r boblogaeth. JECH 2014, doi:10.1136/jech-2013-203427 

8.       Reference costs 2012-13.  Department of Health. Tachwedd 2013

9.       Yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant.  Ar gael yn:  http://www.makingthelink.net/costs-head-injuries

10.    Strategaethau i atal anafiadau anfwriadol ymysg plant a phobl ifanc o dan 15 oed.  Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) Canllawiau Iechyd Cyhoeddus 29 a Chyfarwyddyd Iechyd y Cyhoedd 30. Tachwedd 2010)

 

 

 



[1] (Trwyddedau gyrru graddedig: dadansoddiad rhanbarthol o arbedion anafusion posibl ym Mhrydain Fawr, Sefydliad y RAC, 2014)

[2] Mae dwy ran o dair yn cefnogi trwyddedau gyrru graddedig i wella diogelwch gyrwyr ifanc, Sefydliad yr RAC, 2014